Mae dyn 23 oed o dref Tredegar Newydd wedi cael ei ynysu yn ninas Wuhan yn Tsieina yn sgil pryderon ei fod e’n dioddef o coronavirus.

Mae’r athro’n dweud ei fod e’n poeni iddo gael ei daro’n wael ym mis Tachwedd cyn i’r firws ddod i sylw’r byd.

Cafodd e ddiagnosis bryd hynny o niwmonia posib, ond doedd dim modd cadarnhau hynny.

Dydy e ddim wedi gallu dychwelyd i Gymru gan ei fod e wedi rhoi ei basport i’r awdurdodau er mwyn cael ymestyn ei drwydded i fyw yn Tsieina.

Mae’n poeni bellach na fydd e’n cael dod adref.

“Daeth y newyddion am symud pobol Brydeinig yn gyflym iawn, gan adael nifer o bobol ar ôl os oedd ganddyn nhw dipyn o bellter i fynd o’r maes awyr, fel na fydden nhw’n gallu hedfan,” meddai.

Mae Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, yn annog unrhyw un yn Tsieina i adael y wlad os oes modd.

Ond mae Jamie Morris yn dweud iddo gael cyngor gan y Swyddfa Dramor i “fod yn amyneddgar”, wrth iddyn nhw ddweud y bydden nhw’n cysylltu pe bai’r sefyllfa’n newid.

“Dw i ar fy mhen fy hun yn fy fflat ar hyn o bryd, wedi fy ynysu o’r byd tu allan, fel petai,” meddai.

“Ar hyn o bryd, dw i’n fodlon mynd i wlad arall, ond mae’r cyfan yn nwylo llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig.”

Ei gariad wedi gadael y wlad

Mae’n dweud bod ei gariad, Camilla, eisoes wedi gadael Tsieina er mwyn dychwelyd i Samoa a’i fod e bellach ar ei ben ei hun yn y ddinas.

“Dyma’r penderfyniad mwyaf anodd ry’n ni wedi ei wneud ond cafodd hi gyfle i adael felly fe wnes i ei hannog hi rhwng popeth fod rhaid i ni achub ar y cyfle hwnnw a sicrhau ei bod hi’n ddiogel,” meddai.

“Mae bod yn sownd yn Seland Newydd dipyn gwell na bod yn sownd yn Wuhan.

“Dw i mor eiddigeddus ei bod hi wedi gallu gadael ond byddwn i’n dewis iddi hi adael yn fy lle i unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

“Dw i’n ei charu hi a dim ond ei bod hi’n ddiogel, dyna’r cyfan sy’n bwysig.”