Mae ysgol yn Abertawe – a fu’n destun ffrae danllyd – bellach wedi  cael ei gwerthu am £150,000 mewn ocsiwn yn Llundain.

Cafodd Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre, yn y Parsel Mawr, ei chau ar ddechrau haf 2019.

Ac yn sgîl hynny penderfynodd Cyngor Abertawe ei gwerthu.

Cafodd y Cyngor ei feirniadu gan y Comisiynydd Iaith am beidio ag asesu sut effaith y byddai cau’r ysgol yn ei chael ar y Gymraeg yn yr ardal.

Ac mae’r penderfyniadau i gau’r ysgol a’i gwerthu wedi esgor ar rwystredigaeth yn yr ardal.

Rhoi ysgol Gymraeg ar werth mewn ocsiwn yn Llundain

Y Parsel Mawr yw’r gymuned â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn Sir Abertawe – 38.% o’i chymharu ag 11% ledled y sir.