Mae cyn-Gyfarwyddwr Artistig canolfannau’r Galeri yng Nghaernarfon a Phontio ym Mangor am fynd ati i fapio’r gweithgarwch celfyddydol sy’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Elen ap Robert wedi cael y gwaith gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd eisiau darlun cyflawn o’r hyn sy’n digwydd o ran y Celfyddydau yng Nghymru.

Bydd y Sîn Roc Gymraeg Gymraeg, dramâu a llenyddiaeth yn cael sylw Elen ap Robert.

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dod i’r casgliad, a dw i’n llwyr gytuno, bod yna lot o botensial o ran cynnydd mewn faint o gynyrchiadau a gweithgareddau sy’n digwydd yn y Gymraeg ond bod angen deall y darlun yn well,” eglura Elen ap Robert.

“Mae yna elfen o gymryd cam yn ôl ac edrych yn ehangach yn perthyn i’r gwaith, oherwydd mae’n rhaid cofio mai dim y pethau mae’r Cyngor yn ei ariannu yw’r unig bethau sy’n digwydd ym myd celfyddydau Cymru.”

A does gan Bennaeth Cyfathrebu Cyngor Celfyddydau Cymru, Siôn Brynach ddim amheuaeth mai Elen ap Robert yw’r person gorau i fynd at i fapio’r gweithgarwch celfyddydol sy’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mi ddaru ni roi’r gwaith allan i dendr llynedd ac Elen wnaeth gynnig y gwaith gorau i ni, mi oedd o’n arbennig o dda,” meddai Siôn Brynach.