Mae dyn 22 wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ddyn arall yn Aberystwyth.

Digwyddodd yr ymosodiad honedig ar Stryd Portland Uchaf am 9.30 y nos ar Chwefror 1.

Mi wnaeth dyn 59 oed ddioddef anafiadau difrifol a chafodd ei gludo i’r ysbyty.

Bellach mae’r ymosodwr honedig wedi cael ei ryddhau ond mae’r ymchwiliad yn parhau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn credu bod pobol yn yr ardal yn ystod y digwyddiad, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth. Dylai unrhyw yn sydd â gwybodaeth ffonio 0800 555 111.