Mae Cymdeithas yr Iaith wedi brolio Comisiynydd y Gymraeg am “siarad allan” yn erbyn faint mae Llywodraeth Cymru am ei wario ar yr iaith.

Cafodd cyllideb ddrafft £20bn y Llywodraeth ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, ac mae’r ddogfen yn amlinellu ymrwymiad i wario £20.9m ar y Gymraeg yn y flwyddyn ariannol 2020/21.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau y bydd  yr arian sy’n cael ei wario ar y Gymraeg yn cwympo mewn termau real gan £400,000 neu 1.6% – o ystyried chwyddiant, ac ati.

Ac yn ôl Comisiynydd y Gymraeg mae yna berygl fod Llywodraeth Cymru yn “tanseilio” targed miliwn o siaradwyr erbyn 2050 trwy beidio â gwario digon ar y Gymraeg.

Fe ddaeth sylwadau  Roberts mewn gohebiaeth â Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y Cynulliad.

“Nid oes cynnydd cyffredinol wedi bod yng nghyllideb y Gymraeg,” meddai mewn llythyr i’r pwyllgor.

“Felly mae’n rhaid gofyn a yw’n bosibl i Weinidog y Gymraeg [Eluned Morgan] a Llywodraeth Cymru gyflawni strategaeth uchelgeisiol heb gynnydd yng nghyllideb y Gymraeg.

“Mae’n ymddangos i mi nad yw lefel y gwariant ar y Gymraeg ar hyn o bryd yn cyd-fynd ag uchelgais Cymraeg 2050 ac mae risg bod diffyg buddsoddi ychwanegol yn mynd i danseilio ymdrechion i gyflawni’r strategaeth.”

Y Gymdeithas yn “falch”

“Rydyn ni’n falch bod y Comisiynydd wedi siarad allan, a hynny’n ddi-flewyn-ar-dafod,” meddai Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith

“Mae’n bwysig cofio bod gan Lywodraeth Cymru £600 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly does dim modd cyfiawnhau’r toriadau hyn.

“Fel canran o holl wariant y Llywodraeth, mae buddsoddiad mewn prosiectau penodol i hyrwyddo’r Gymraeg yn bitw iawn – dim ond 0.11% o’r gyllideb gyfan.

“Yng Ngwlad y Basg, mae buddsoddiad yn llawer iawn uwch na hynny gyda thua 1% o’u cyllideb yn cael ei buddsoddi mewn prosiectau penodol i hybu’r Fasgeg.

“Yn ogystal â’r gyllideb benodol honno, mae cyllidebau eraill o fewn Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yn gorfod dangos cyfraniad sylweddol at ymdrechion at hyrwyddo’r iaith leiafrifol.
“Yn y cyd-destun lle mae pob adran o Lywodraeth Cymru yn derbyn cynnydd yn ei chyllideb, ac o ystyried y cynlluniau uchelgeisiol i ddyblu defnydd yr iaith a chynyddu nifer y siaradwyr i filiwn, byddai’n deg disgwyl cynnydd yn y buddsoddiad yn yr iaith sy’n debyg i holl adran y Gweinidog Rhyngwladol – sef cynnydd o 21.8%.
“Yng nghyd-destun targedau iaith y Llywodraeth, ynghyd â chynnydd yng nghyllideb y Llywodraeth yn gyffredinol, mae’r penderfyniadau cyllidebol o ran y Gymraeg yn adlewyrchu’n wael iawn ar Lywodraeth Cymru ac yn anfon neges nad yw’r Gymraeg yn bwysig iddyn nhw.”

“Cyllideb y Gymraeg wedi cynyddu’n sylweddol”

Mewn ymateb i sylwadau’r Comisiynydd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae cyllideb y Gymraeg wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau tymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn falch o fod wedi gallu cynnal y cynnydd hwnnw yng nghyllideb y Gymraeg ar gyfer 2020-21 gan ei chadw ar yr un lefel â 2019-20.

“Wrth ystyried cyllideb y Gymraeg, mae’n bwysig cofio nad cyllideb Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn unig sy’n cefnogi gweithredu Cymraeg 2050. Rydym yn prif-ffrydio’r Gymraeg i waith y llywodraeth gyfan ac felly mae cyllidebau ar draws y llywodraeth yn cyfrannu at wireddu ein nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”