Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi torri chwe safon iaith wrth fethu â sicrhau gwasanaeth Cymraeg digonol i deithwyr trenau, yn ôl adroddiad sydd wedi dod i law golwg360.

Bu Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn ymchwilio i gyfres o gwynion yn erbyn darpariaeth Gymraeg Trafnidiaeth Cymru, cwynion a oedd yn ymwneud â methiant i gydymffurfio â gwahanol safonau.

Mewn dogfen sy’n amlinellu ei ymatebion i’r cwynion mae’n gwrthod honiadau o ddiffyg cydymffurfio yn achos pum safon, ond yn cadarnhau bod hyn wedi digwydd yn achos chwe safon arall.

Bu’n ymchwilio i gwynion penodol gan aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â phryderon eraill a gafwyd eu codi gan straeon y “wasg a gwaith gwirio swyddogion”.

Y cwynion

Ymhlith y cwynion roedd:

  • Ap Trafnidiaeth Cymru ddim ar gael yn Gymraeg
  • Gwe-dudalen ddim yn adnabod enwau Cymraeg gorsafoedd
  • Ticedi trên yn uniaith Saesneg
  • Dewisiadau Saesneg ar beiriant hunanwasanaeth Gorsaf Caerdydd Canolog – er bod yr achwynwr wedi dewis yr opsiwn Cymraeg
  • Gwerthwr wrth y cownter prynu ticedi ddim yn gallu siarad Cymraeg (yn yr un orsaf)
  • Dwy gŵyn am e-byst uniaith Saesneg gan y cwmni

Trafnidiaeth Cymru

Cafodd Trafnidiaeth Cymru ei sefydlu yn 2016 fel is-gwmni o dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru.

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cael eu rheoli gan Keolis Amey, sy’n gweithredu Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Maen nhw wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau yng Nghymru ers mis Hydref 2018.

Yng ngeiriau’r adroddiad “mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni cyfyngedig dan warant, a’r unig warantwr yw Llywodraeth Cymru.”

Roedd adroddiad drafft o fis Ionawr eisoes wedi nodi bod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi torri’r gyfraith mewn naw gwahanol ffordd.

Yn ymateb i hynny ar y pryd, galwodd Cymdeithas yr Iaith y “methiant” hwnnw yn “destun embaras” i’r Llywodraeth.

Fe fydd y Comisiynydd yn gorfodi’r Gweinidogion i gymryd camau i gydymffurfio â’r safonau o fewn tri mis i gyhoeddi ei adroddiad terfynol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Pan ofynnwyd i Lywodraeth Cymru am eu hymateb, dywedodd llefarydd ar eu rhan: “Rydym o ddifri ynghylch ein hymrwymiad i’r Gymraeg ac rydym yn disgwyl i Trafnidiaeth Cymru fod hefyd.  Byddwn yn cadw golwg barcud ar ymateb TrC ac yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar gydymffurfio â’r Gymraeg.”