Cyngor Sir Caerfyrddin yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid hinsawdd er mwyn gweithio tuag at fod yn ddi-garbon yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

Y llynedd roedd yr awdurdod yn un o’r cynghorau cyntaf ym Mhrydain i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan addo bod yn ddi-garbon erbyn 2030, sef 20 mlynedd o flaen targedau Llywodraeth Cymru. Roedd hefyd y sir gyntaf yng Nghymru i brynu ceir trydain er mwyn lleihau effaith milltiroedd busnes.

‘Nawr mae’r gwaith caled yn dechrau’

Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd: “Rwy’n ymfalchïo’n fawr mai ni yw’r cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu.

“Wedi dweud hynny, llunio cynllun gweithredu yw’r darn hawdd – nawr mae’r gwaith caled yn dechrau. Bydd y cynllun hwn yn esblygu ac yn newid i ateb heriau’r dyfodol.

“Rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd, gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth, a gyda chymdeithasau a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus sy’n awyddus i ddod gyda ni ar y daith hanesyddol hon.”

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor eisoes wedi llwyddo i gyflawni gostyngiadau mewn allyriadau carbon o adeiladau cyhoeddus, goleuadau stryd ac o gerbydau sbwriel a graeanu.

O hyn ymlaen, bydd  pob prosiect adeiladu mawr newydd yn cynnwys ynni adnewyddadwy, gan gynnwys paneli solar, a phympiau sy’n codi gwres o’r ddaear a’r awyr.

Ymhlith y camau gweithredu eraill y mae datblygu ffyrdd newydd o leihau carbon yn adeiladau’r Cyngor, prynu fflyd sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon, cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau newid ehangach, edrych ar gyfleoedd i blannu coed a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.