Mae economegydd blaenllaw o Abertawe wedi wfftio at honiadau llywodraeth Prydain y bydd Cymru’n elwa ar ddatblygiad y rheilffordd gyflym HS2.

“Mae awgrymu bod adeiladu HS2 o fudd i Gymru yn nonsens,” meddai’r Dr John Ball, cyn-ddarlithydd yn Adran Economeg y Brifysgol yno.

“I’r gwrthwyneb, bydd llai o fuddsoddiad yn dod i Gymru yn sgil y prosiect.

“Mae cael rheilffordd cyflymder uchel fel HS2 yn ddeniadol i fuddsoddwyr a chorfforaethau.

“Felly os bydd corfforaethau’n awyddus i gael cysylltiadau cyflym, fydda nhw ddim yn dod i Gymru i fuddsoddi.”

Mae’r economegydd, sydd hefyd yn un o gefnogwyr blaenllaw’r mudiad YesCymru, yn amau’r synnwyr mewn trin economi Prydain fel un endid.

“Mae economi’r Deyrnas Unedig yn cael ei drin fel un economi, felly mewn theori mae buddsoddiad mewn un ardal neu sector yn cryfhau’r holl economi.

“Er enghraifft, pe byddai rhywun yn agor swyddfa yn Birmingham, y gred yw bod hynny yn gwella sefyllfa economaidd ymhobman, dyna sut mae gwleidyddion yn honni bod HS2 o fudd i Gymru, sy’n nonsens.”

Cadarnhau buddsoddiad

Yn dilyn cyfarfod o Gabinet Boris Johnson ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 11) daeth cadarnhad y bydd y rheilffordd yn cael ei drydaneiddio rhwng Llundain a Crewe, a rhwng Birmingham a Leeds.

Mae adroddiad a gafodd ei ryddhau i’r cyfryngau yn awgrymu y gallai costau HS2 godi i £106 biliwn – sy’n gynydd sylweddol o’r £32.7 biliwn a gafodd ei ddargogan yn 2011.

“Mae’n ddiddorol bod yr holl arian yma ar gael i gysylltu dinasoedd Lloegr ond ddim i gysylltu llefydd yng Nghymru,” meddai Dr John Ball.

“Byddai’n bosib adeiladu rheilffordd rhwng Caerfyrddin, Llambed ac Aberystwyth am oddeutu £700 miliwn, sydd yn ganran fechan o’r buddsoddiad mae HS2 yn ei dderbyn.”

Mae o’r farn hefyd nad yw cwmnïau Cymru’n cael canran deg o’r gwaith adeiladu a pheirianneg sy’n dod gyda HS2.

“Allan o’r 1,500 o gytundebau peirianneg sy’n dod gydag adeiladu HS2, mae 1,400 ohonynt wedi mynd i gwmnïau o Loegr ac 17 ohonynt i gwmnïau o Gymru, sy’n tua 1.5%. Dyw hynny ddim yn ganran deg.”