Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James wedi cyhoeddi heddiw (Chwefror 12) bod Llywodraeth Cymru yn rhoi £500,000 o gyllid ychwanegol i Gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.

Bwriad y cyllid ychwanegol yw helpu cynghorau i lywodraethu eu hunain yn well, gan gynnwys cynyddu hyfforddiant i glercod a chynghorwyr.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn helpu i “osod sylfaen gref at y dyfodol.”

Mae’r buddsoddiad yn dod ar ben y cymorth blynyddol a roddir i’r sector gan Lywodraeth Cymru eisoes.

Bydd yn cefnogi’r meysydd y mae Julie James wedi ymrwymo i weithredu arnynt yn sgil cyhoeddi’r Panel Adolygu Annibynnol ar Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiad 2018-19 oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru, a ddywedodd bod gormod o gynghorau yn dal yn brin o gyrraedd y safon ddigonol o ran cadw cyfrifon.

Dywed y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James: “Bydd y cyllid ychwanegol rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu cynghorau tref a chymuned ledled Cymru i gryfhau eu gallu rheoli a llywodraethu.

“Mae cynghorau cymuned a thref yn rhan annatod o lywodraeth leol, a bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod gan yr holl gynghorau’r modd i fodloni eu gofynion statudol a bod ganddynt lywodraethiant cryf i gefnogi eu cymunedau.”