Wrth i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig geisio dygymod â dinistr Storm Ciara, mae’r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybuddion am y storm nesaf, Storm Dennis.

Yn ôl y rhagolygon fydd Storm Dennis ddim mor eithafol â Storm Ciara ond mae disgwyl y bydd yno wyntoedd cryfion a glaw trwm y penwythnos hwn.

Mae rhybudd tywydd melyn wedi cael ei osod ar gyfer rhannau helaeth o Gymru a Lloegr ddydd Sadwrn, gyda gwyntoedd 50 milltir yr awr yn hyrddio’r wlad, a bygythiad o ragor o lifogydd.

“Mae cyfnod arall o dywydd gwlyb a gwyntog i ddod dydd Sadwrn, er nad ydym yn disgwyl i Storm Dennis fod mor ddifrifol â Ciara mae’n debygol o achosi aflonyddwch,” meddai Steve Ramsdale, pennaeth meteorolegol y Swyddfa Dywydd.

“Mae ein hyder yn y rhagolygon yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa i osod rhybuddion tywydd o flaen llaw gan roi amser i bobl baratoi at effaith y storm.”