Wrth i wyntoedd cryfion Storm Ciara dawelu, mae ardaloedd yng ngogledd Cymru wedi gorfod cau ffyrdd ac ysgolion oherwydd eira.

Oherwydd eira trwm, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori gyrwyr i osgoi teithio ar ffyrdd yn Nolgellau, Y Bala, Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd os yn bosib.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi eu bod wedi gorfod cau nifer o ffyrdd gan gynnwys:

  • Bwlch y Gorddinan ar y A470
  • yr A4212 ger Trawsfynydd
  • A5 ger Llyn Ogwen
  • A470 rhwng Cross Foxes a Mallwyd

 

Mae ffordd yr A4212 rhwng Y Bala a Thrawsfynydd hefyd ynghau tan fod graeanwyr yn cyrraedd a chyflwr y tywydd yn gwella.

Mae ffordd yr A547 rhwng Llanddulas ac Abergele ynghau hefyd oherwydd llifogydd yn dilyn Storm Ciara ac mae cyfyngiadau dros dro ar Bont Britannia yn Ynys Môn.

Mae nifer o ysgolion hefyd wedi cau prynhawn ma (Chwefror 10) gan gynnwys:

  • Ysgol Ffridd y Llyn, Y Bala
  • Ysgol Bro Idris- safle Rhydymain
  • Ysgol Bro Idris- safle Dinas Mawddwy
  • Ysgol Bro Idris- safle Llanelltud
  • Ysgol Bro Idris- safle Cynradd Dolgellau
  • Ysgol Bro Idris- safle Uwchradd
  • Ysgol Beddgelert- Beddgelert (gan nad oes trydan yn yr ysgol)