Mae dynes wedi llwyddo i gyrraedd y lan ar ôl i dimau achub fod yn chwilio amdani yn nhref Porthcawl.

Dywedodd llefarydd ar ran criw bad achub y dref iddyn nhw, yr heddlu a Gwylwyr y Glannau gael eu galw rhwng 5.30 a 6 o’r gloch yn dilyn adroddiadau bod unigolyn yn y môr.

Ond cafwyd hyd i’r person, oedd heb fod yn y môr, yn ddiweddarach a gadawodd y timau achub y safle.