Mae cyngerdd Tapestri yn Galeri yng Nghaernarfon wedi cael ei gohirio yn sgil Storm Ciara.

Yn ôl tudalen Twitter y theatr, mae dŵr yn dod i mewn i’r adeilad.

Roedd disgwyl i’r ddeuawd Americana, Lowri Evans a Sera Zyborska, berfformio yno heno (nos Sul, Chwefror 9).

Mae dau ddangosiad ffilm hefyd wedi’u canslo, ond mae disgwyl i bob digwyddiad arall fynd yn ei flaen.

“Yn anffodus, oherwydd difrod storm Ciara – mae gennym ddŵr yn dod i’r theatr ac mae’n rhaid gohirio cyngerdd Tapestri heno,” meddai’r theatr.

“Mi fyddwn yn cysylltu hefo pawb sydd wedi archebu tocynnau. Y gobaith yw gallu ail-drefnu cyngerdd Sera a Lowri yn y dyfofol.

“Mae dangosiadau ffilm yn parhau heddiw (ag eithrio ffilmiau 19:45/20:00). Os hoffech newid tocyn ar gyfer dydd/amser arall – plis cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau.”