Mae bwyty yn Aberaeron wedi postio fideo ar wefan gymdeithasol Facebook ar ôl i Storm Ciara daro’r dref.

Mae’r fideo’n dangos lefelau uchel y dŵr y tu allan i fwyty’r New Celtic Pride.

Ond yn ôl y bwyty, dydy’r tywydd ddim wedi effeithio ar nifer y cwsmeriaid sy’n mynd yno heddiw (dydd Sul, Chwefror 9).

“Ddim rili,” meddai’r llefarydd.

“Mae pobol yn dal wedi bod yn dod mewn am eu bwyd.”

Mae’r fideo wedi cael ei hoffi dros gant o weithiau, ac wedi’i rannu 142 o weithiau, gan ddenu degau o sylwadau.