Mae Dan Biggar yn dweud na all tîm rygbi Cymru fforddio rhoi lle i’w wrthwynebydd Jonny Sexton ymosod yn y gêm fawr yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Nulyn heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 8).

Mae maswr a chapten Iwerddon yn adnabyddus am chwarae rygbi agored, ond fe allai’r tywydd garw effeithio ar llif y gêm os yw’r rhagolygon yn gywir.

Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm yn y Chwe Gwlad yn Nulyn ers 2012.

“Fe yw chwaraewr gorau Iwerddon ers deg neu ddeuddeg o flynyddoedd,” meddai’r Cymro am ei wrthwynebydd yn y crys rhif deg.

“Mae’n wych cael chwarae yn erbyn Johnny, un o’r bois gorau fyddech chi’n cwrdd â fe.

“Mae e’n nabod eu gêm nhw drwyddi draw, bydd e’n eu gyrru nhw o gwmpas y cae, ac am wn i ein gwaith ni ddydd Sadwrn fydd ceisio gwneud bywyd mor anghyfforddus â phosib iddo fe.

“Pe baen ni’n rhoi rhwydd hynt iddo fe a’i adael e i reoli’r chwarae, ry’n ni wedi gweld dros y blynyddoedd pa mor dda yw Johnny fel chwaraewr.

“Mae angen i ni ei orfodi fe i wneud camgymeriadau.

“Ond mae Johnny wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i wybod fod unrhyw dîm sy’n chwarae yn erbyn Leinster neu Iwerddon yn mynd i drio’i orfodi fe i wneud camgymeriadau, ond mae e wedi gwneud yn iawn yn ystod ei yrfa hyd yn hyn.”

Storm?

Yn ôl Dan Biggar, y tîm sy’n gallu atal olwyr y gwrthwynebwyr fydd yn mynd â hi ar y diwrnod, ac mae’n dweud y bydd y tywydd yn effeithio ar hynny hefyd.

“Gyda’r tywydd, mae’n edrych fel ei bod hi’n mynd i fod yn fwy o frwydr fyth nag yr oedden ni’n meddwl y byddai hi’n wreiddiol.

“Am wn i, un i’r puryddion fydd hon.

“Fydd y tywydd ddim yn wych, yn ôl y sôn, felly bydd hi’n fater o dorchi llewys.

“Ond mae’n wych on’d yw hi? Dyma hanfod y twrnament, mynd oddi cartre’ a cheisio ennill.”