Mae cwmni sy’n asesu pobol fregus i weld a ydyn nhw yn gymwys i dderbyn budd-dal gan Lywodraeth Prydain, wedi ildio i bwysau lleol i ailagor canolfan yn y gogledd.

Ers misoedd mae pobol fregus ac anabl o Ben Llŷn wedi wynebu pedair awr o siwrne ar wahanol fysus, er mwyn gallu dal gafael mewn lwfans sy’n eu helpu i fyw gyda salwch hirdymor.

Yr wythnos hon mae un fam wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod y profiad o orfod gyrru ei mab o Fotwnnog i’r Rhyl i gael ei asesu, yn “afresymol… yr issue ydy fod o mor wirion o bell”.

Ac mae Aelod Seneddol Arfon wedi beirniadu’r cwmni sy’n rhedeg y gwasanaeth asesu pobol fregus, am gau swyddfa ym Mangor a dargyfeirio pobol Gwynedd i swyddfeydd asesu yn y Rhyl ac Aberystwyth.

Yn dilyn y feirniadaeth mae’r cwmni – Capita – wedi dweud eu bod am agor swyddfa newydd dros dro yng Nghanolfan Storiel ym Mangor.

Capita?

Capita yw enw’r cwmni sydd wedi cael y gwaith o asesu pwy sy’n gymwys i dderbyn Taliadau Annibyniaeth Personol.

Mae’r taliadau yma yn amrywio rhwng £23.20 a £148.85 yr wythnos, yn dibynnu ar gyflwr yr unigolyn.

Daw’r arian o goffrau Adran Waith a Phensiynau Llywodraeth Prydain, er mwyn helpu oedolion anabl neu rai sy’n dioddef salwch hirdymor gyda chostau byw.

Mae’r rhai sydd eisiau derbyn yr arian yn cael eu hasesu yn rheolaidd gan swyddogion Capita cyn cael parhau i dderbyn y taliadau.

Ers i Capita gau eu swyddfa ym Mangor ym mis Tachwedd 2019, mae’r cwmni wedi bod yn gofyn i bobol Gwynedd deithio i’r Rhyl neu Aberystwyth am asesiad.

Yn ôl rheolau’r Adran Waith a Phensiynau, ddylai’r un unigolyn orfod teithio am fwy nag awr a hanner ar drafnidiaeth gyhoeddus am asesiad.

Gair o brofiad

Ond mae Catherine Williams o Fotwnnog ym Mhen Llŷn yn dweud y byddai ei mab yn gorfod dal sawl bws er mwyn cyrraedd y Rhyl, ac y byddai hynny yn cymryd tua phedair awr.

Mae Gareth Hughes ei mab yn awtistig, a’r fam yn dweud na fyddai yn medru dal y gwahanol fysus er mwyn cyrraedd y Rhyl.

“Mae o’n iawn os ydy o angen dal bys mae o wedi bod arno fo o’r blaen, ond yn cael trafferth efo mynd i rywle newydd,” meddai Catherine Williams.

Roedd cwmni Capita wedi cynnig bod Gareth Hughes yn teithio i’r Rhyl mewn tacsi, ac y byddai yn cael gwneud cais i hawlio’r arian yn ôl.

Ond mae ei fam yn dweud y byddai tacsi wedi costio tua £150, ac nad oes gan ei mab y math yna o arian i dalu am dacsi yn y lle cyntaf.

Ond prif gŵyn Catherine Williams, sy’n gweithio yn siop Asda Pwllheli, yw bod Capita wedi cau eu swyddfa ym Mangor ac yn gorfodi ei mab i deithio i’r Rhyl, sy’n 70 milltir o’i gartref ym Mryncroes ger Botwnnog.

“Does dim esgus i symud [swyddfa Capita] mor bell i ffwrdd,” meddai’r fam.

“Fe wnes i benderfynu mynd â Gareth i’r Rhyl fy hun, yn y car, ac roedd o’n flinedig iawn erbyn y diwedd.

“Mae o i fod i gymryd awr a phedwar deg munud i yrru o Fotwnnog i’r Rhyl – ond mae hynny heb bo chi yn dod ar draws traffig.

“A beth os fysa Gareth heb neb i fynd ag o?

“Y broblem ydy bod swyddfa Capita mor wirion o bell. Mae [mynd i gael asesiad] yn ddigon o stress fel mae hi…

“Maen nhw wedi cael digon o amser i chwilio am swyddfa newydd ym Mangor.

“Dim ond ‘stafell sydd angen. Mae o’n soul destroying.”

Croesawu cyhoeddiad Capita

Mae Aelods Seneddol Arfon wedi croesawu’r newyddion fod canolfan asesu am gael ei hagor yn ninas Bangor.

Mi fydd Capita yn agor swyddfa dros dros yng Nghanolfan Storiel am dri mis, tra yn chwilio am safle parhaol.

“Tra fy mod yn croesawu y tro pedol yma,” meddai Hywel Williams, “mae’n rhaid ymdrechu rwan i sicrhau lleoliad parhaol ar gyfer y ganolfan, un sy’n lleol ac mor gyfleus â phosib ac sy’n diwallu anghenion penodol hawlwyr.’

 “Byddaf yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, gan sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud i sicrhau safle lleol, addas a pharhaol i ddiwallu anghenion hawlwyr anabl a bregus.”