Mae mwy na hanner pobol Cymru yn bwriadu teithio i Ewrop eleni, er gwaetha’r ansicrwydd ynghylch Brexit.

Yn ôl arolwg diweddar mae teithio i Ewrop ar fryd 55% o Gymry, ac mae 30% yn dweud nad yw’r cyfandir wedi colli’i apêl yn sgil yr ymadawiad.

Mae 23% yn dweud bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb teithio i lefydd y tu allan i Ewrop o gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Ac mae 31% wedi syrffedu cymaint â Brexit maen nhw’n bwriadu mynd i lefydd tramor mor aml ag sy’n bosib er mwyn osgoi clywed amdano.

“Poeni am effaith Brexit”

Cafodd 2,000 o oedolion o’r Deyrnas Unedig eu holi gan WeSwap, y cyfnewidwyr arian, fel rhan o’r arolwg.

“Er bod y syniad o Brexit yn codi ofn ar lawer o bobol sy’n mynd ar wyliau, mae ein hymchwil yn dangos bod pobol yn dal yn bwriadu mynd ar wyliau i Ewrop eleni,” meddai eu Prif Swyddog Marchnata, Rob Tross.

“Heb os, efallai bod yna bobol sydd yn poeni am effaith Brexit ar eu gwyliau. Ond mae yna cymaint o ffyrdd o hyd er mwyn sicrhau nad ydych [trwy gyfnewid arian] yn gwario mwy na sydd angen tros y gaeaf.”