Mae’r nifer o bobol sy’n gofyn am wasanaeth Cymraeg gan Adran Gyllid a Thollau Llywodraeth Prydain wedi cynyddu.

Y llynedd bu i dros 20,000 o bobl ffonio swyddfeydd treth Cymru ym Mhorthmadog a Chaerdydd i gael cyngor yn Gymraeg.

Ac fe gafodd Gwasanaeth Iaith Gymraeg Adran Gyllid a Thollau Llywodraeth Prydain flwyddyn i’w chofio yn 2019 wrth iddyn nhw gyfieithu dros 1.5 miliwn o eiriau.

Daw’r newyddion am yr ystadegau hyn ddwy flynedd ers i 17 o weithwyr y Gwasanaeth Cyllid a Thollau ym Mhorthmadog gael cadw eu swyddi ar ôl bygythiadau y byddai’r swyddfa yno’n cau.

Swyddi Cymraeg swyddfa dreth Porthmadog wedi’u diogelu

32 ar gael i gynghori

Mae 32 o bobl bellach yn gweithio i Wasanaeth Iaith Gymraeg Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ym Mhorthmadog a Chaerdydd.

Mae’r tîm ym Mhorthmadog yn cynnig cyngor ar amryw o faterion treth i’r bobl sydd am gael y gwasanaeth drwy’r Gymraeg.

Yng Nghaerdydd wedyn mae’r Uned Iaith Gymraeg yn darparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer y Gwasanaeth Cyllid a Thollau ac yn cydlynu holl ofynion Iaith Gymraeg y gwasanaeth.

“Yn ogystal â’n dau brif dîm ym Mhorthmadog a Chaerdydd, mae gennym siaradwyr Cymraeg ar hyd Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi all helpu cwsmeriaid,” meddai Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg, Lee Jones.

“Mae’n hynod galonogol gweld anghenion iaith Gymraeg y sefydliad a’r cwsmeriaid yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn.”