Mae pobol Llanberis wrth droed yr Wyddfa yn galw ar Gyngor Gwynedd i gymryd mwy o reolaeth dros weithgareddau awyr agored sy’n amharu ar eu pentref.

Gan ddechrau efo ras gyntaf y gaeaf ddiwedd y mis yma, fe fydd pentref bach Llanbêr yn lleoliad i ddegau o rasys awyr agored rhwng nawr a diwedd mis Hydref.

Ond mae’r cynghorydd sy’n cynrychioli Llanberis ar Gyngor Gwynedd wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod wedi cael llond bol ar y sefyllfa.

Mae nifer o’r rasys yn cychwyn ar dir Cae’r Ddôl sy’n llecyn chwarae poblogaidd gan blant y pentref.

Cyngor Gwynedd sydd biau’r cae ac maen nhw yn codi £700 y dydd i gwmnïau gweithgareddau awyr agored ei ddefnyddio.

“Dw i’n gwybod un peth – mae hyn yn dda i economi Gwynedd ond Llanberis sy’n cael y glec i gyd!” meddai’r Cynghorydd Kevin Morris Jones.

“Efo Ras yr Wyddfa, y Carnifal a’r Marathon mae pobol leol yn dod allan i gyd i gefnogi, ond efo’r rasys eraill does gan y bobol leol ddim diddordeb.

“Ac mae twristiaid eraill yn mynd o’ma oherwydd y problemau – mae’r rhedwyr yn parcio yma yn fuan yn y bore a does yna ddim lle ar ôl ac mae’r bins yn orlawn.”

A dywed bod busnesau lleol ar eu colled am fod y cwmnïau sy’n trefnu’r rasys yn codi’u stondinau eu hunain.

“Beth sy’n digwydd ydi eu bod nhw’n gwerthu dillad sports ac ati – felly dydi pobol ddim yn gwario yn y pentref. A dydi plant bach Llanbêr ddim yn gallu defnyddio’r cae i chwarae ac mae ganddyn nhw hawl i wneud.”

Arian Ras yr Wyddfa yn troi’n lleol

 Mae prif drefnydd Ras yr Wyddfa yn dweud ei fod yn cefnogi’r ymgyrch i gael mwy o reolaeth ar weithgarwch awyr agored yn y pentref.

“Am ein bod yn grŵp cymunedol rydym yn cael y cae am ddim gan Gyngor Gwynedd,” meddai Stephen Edwards gan ychwanegu fod unrhyw elw ar ôl talu costau Ras Yr Wyddfa yn cael ei rannu rhwng elusennau, clybiau a thimau achub lleol, “ac yn troi’n lleol.”

Ac yn wahanol i lawer o’r cwmnïau preifat sy’n dod i Lanberis i gynnal gweithgareddau, mae Ras yr Wyddfa yn defnyddio cwmnïau lleol.

“Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflogi cwmnïau lleol, ond mae cwmnïau eraill [o Loegr] yn dod â barriers a bob dim felly efo  nhw tra rydym ni’n eu cael pethau felly o Fangor neu Gaernarfon.”

Gan bwysleisio nad yw am ymddangos yn negyddol, mae Stephen Edwards hefyd yn dweud bod rhaid gweithredu a chael mwy o reolaeth ar y sefyllfa.

“Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod rhaid gwneud rhywbeth oherwydd mae’r  cymunedau sydd o gwmpas yr Wyddfa yn rhy fach i ymdopi efo prysurdeb y lle – mae’n rhaid iddyn nhw gadw rheolaeth.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

“Fel Cyngor, rydym yn awyddus i gael y cydbwysedd iawn rhwng y budd economaidd a chymdeithasol ddaw o gynnal digwyddiadau awyr agored a’r effaith gall y digwyddiadau hyn eu cael ar fywydau a busnesau pobl leol.

“Nid oes rhaid cael caniatâd y Cyngor i gynnal pob digwyddiad oni bai y cynhelir hwy ar dir y Cyngor, fod angen trwydded adloniant neu alcohol ar y trefnwyr neu fod angen cau ffyrdd. Felly nid ydym yn dal gwybodaeth am bob ras na digwyddiad a gynhelir yn Llanberis, na faint o bobl sy’n cymryd rhan.

“Mae swyddogion o’r Cyngor eisoes wedi cyfarfod â’r cynghorydd lleol i ystyried opsiynau ac mae cyfarfodydd pellach wedi eu trefnu er mwyn trafod rheolaeth y digwyddiadau hyn i’r dyfodol ac i ganfod mwy o ffyrdd o gadw mwy o’r budd yn lleol.

“Mae gwybodaeth am unrhyw arian ddaw yn ôl i Gyngor Gwynedd o gynnal digwyddiadau ar diroedd sydd o dan ein rheolaeth yn gwbl gyhoeddus a gall unrhyw un wneud cais am y wybodaeth hon.”

Mwy am y stori yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg