Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru heddiw (dydd Gwener, Chwefror 7) er mwyn dathlu Dydd Miwsig Cymru.

Dathliad o gerddoriaeth Cymraeg yw’r diwrnod hwn sy’n rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg, a dyma’r pumed tro iddo gael ei gynnal.

Bydd dros 20 gig yn cael eu cynnal ledled y wlad – o Fangor i Gaerdydd – ac mi fydd sawl cerddor yn cyhoeddi deunydd newydd i gyd-daro â’r diwrnod.

Mae rhestrau chwarae (playlists) wedi cael eu curadu gan gerddorion amlwg a busnesau – mae’r cerddor, Yws Gwynedd, a chwmni rhwydwaith ffonau, EE, wedi creu rhestrau.

Ac mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio ymgyrch #poster2020, sef ymdrech i greu casgliad cenedlaethol o bosteri.