Mae chwe chanolfan yng Nghymru yn mynd i elwa o fuddsoddiad y Deyrnas Unedig mewn gwasanaethau cymorth arbenigol.

Mae’r canolfannau yma yn cynorthwyo dioddefwyr trais, ac mi fydd y chwech yn derbyn £1.3m dros gyfnod o ddwy flynedd.

Gobaith y Llywodraeth yw y bydd hyn yn galluogi mwy o ddioddefwyr nag erioed i dderbyn cyngor, cymorth a chwnsela hanfodol.

Troseddau “brawychus”

“Mae treisio a thrais rhywiol yn droseddau gwirioneddol frawychus sy’n cael effaith hirdymor ar fywydau dioddefwyr,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart.

“Mae’n galondid i mi y bydd mudiadau ym mhob un o bedair ardal heddlu Cymru yn gallu helpu mwy o bobl i gael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Prosiect ehangach

Cafodd 160,000 o droseddau rhywiol eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr y llynedd, ac roedd 8,000 o’r rheiny wedi’u cofnodi gan luoedd heddlu Cymru.

Mae’r buddsoddiad yng Nghymru yn rhan o brosiect ehangach i gynyddu gwariant ar wasanaethau arbenigol gan 50%. Bydd cyfanswm o £32m yn cael ei wario dros dair blynedd hyd at 2022.