Mae nyrs wedi cael ei charcharu am achosi marwolaeth dyn 65 oed mewn gwrthdrawiad wrth yrru ar ôl cymryd lefel ‘wenwynig’ o uchel o gyffuriau lladd poen.

Aeth car Cerys Price, 28 oed, o Brynmawr, Blaenau Gwent, benben â char yn cael ei yrru gan Robert Dean ar yr A467 ger Rogerstone, Casnewydd ym mis Gorffennaf 2016. Roedd hi wedi colli rheolaeth ar y car trwy ddioddef trawiad ar y pryd.

Pan gafodd ei thrin yn yr ysbyty am ei hanafiadau o’r ddamwain, dangosodd sampl gwaed fod ganddi lefel uchel o’r cyffur Tramadol yn ei system. Yn ôl tocsolegydd arbenigol, roedd lefelau o’r fath yn gysylltiedig ag achosi trawiadau.

Yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd y rheithgor hi’n euog o achosi marwolaeth trwy yrru peryglus.

Fe wnaeth y barnwr, yr Ustus Michael Fitton QC, ei charcharu am bum mlynedd a phedwar mis.