Bydd y Cynulliad yn cynnal wythnos o waith yn y gogledd dros yr haf, mewn ymdrech i ennyn diddordeb pobol Cymru yn ei waith.

Dyw’r union ddyddiad a’r lleoliad ddim wedi cael eu cyhoeddi eto, ond mae’n debyg mai yn y gogledd-ddwyrain fydd yr ymweliad.

Bydd holl waith y busnes yn cael ei chynnal tros yr wythnos yma – gan gynnwys cyfarfodydd llawn (a sesiwn holi’r Prif Weinidog) a chyfarfodydd pwyllgor.

Mae peth o waith y Cynulliad wedi cael ei chynnal y tu allan i’r Bae yn y gorffennol, ond dyma fydd y tro cyntaf i’r cyfan ddigwydd – ar yr un pryd – y tu allan i Gaerdydd.

“Posibiliadau cyffrous”

“Bydd cyfarfod yn y gogledd yn creu cyfleoedd newydd i bobl fynychu a chymryd rhan yng ngwaith y Senedd,” meddai’r Llywydd, Elin Jones. “Mae’n cynnig posibiliadau cyffrous i ni.”

Mae trafodaethau bellach yn mynd rhagddynt ynghylch manylion y cynlluniau – lleoliad, amseriad, darlledu’r cyfarfodydd ac ati.