Dylid sicrhau bod modd parhau i wylio gemau rygbi Chwe Gwlad ar sianeli sydd am ddim, yn ôl grŵp o Aelodau Cynulliad.

Mae’r gwleidyddion yn honni bod Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod ychwanegu gemau’r bencampwriaeth at restr o ddigwyddiadau sydd yn rhaid eu darlledu am ddim.

Ac mewn llythyr i Gareth Davies, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Undeb Rygbi Cymru, maen nhw wedi galw ar y corff i sicrhau bod y gemau’n parhau i fod am ddim i’w gwylio.

Ymhlith yr Aelodau Cynulliad Llafur sydd wedi cefnogi’r galw mae Huw Irranca-Davies, Lynne Neagle, Ann Jones, Alun Davies, Carwyn Jones a Mick Antoniw.

“Pwysig” i ddiwylliant Cymru

“Rydym am osgoi’r pryder y byddai cyfranogiad mewn rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru a’r gefnogaeth i’n tîm cenedlaethol yn cael ei ddinistrio trwy guddio uchafbwynt y gêm – pencampwriaeth y Chwe Gwlad – ar sianeli talu i wylio,” meddai.

“Mae’n anodd pwysleisio digon pa mor bwysig yw rygbi i ddiwylliant Cymru, ynghyd â phwysigrwydd y Chwe Gwlad i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr ifanc.”