Mae hi’n argyfwng natur yng Nghymru, gyda bron i draean o’n mamaliaid brodorol mewn perygl o ddiflannu o’n tir a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cael effaith difrifol ar ein hamgylchedd.

Dyna yw rhybudd pedwar o fudiadau cadwraeth sy’n galw ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyhoeddi argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd.

Yn ôl WWF Cymru, RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Cymru a Coed Cymru, mae angen i gyrff cyhoeddus gydweithio i sicrhau eu bod yn rhoi sylw i adfer natur yn ogystal â datgarboneiddio.

“Mae hyn yn cynnwys lleihau llygredd, mynd i’r afael ag effeithiau ffermio dwys a threfi nad ydyn nhw’n gadael lle i fyd natur,” meddai Jessica McQuade, pennaeth polisi WWF Cymru mewn erthygl ar y wefan Click on Wales.

“Mae’r sylw mae’r argyfwng hinsawdd yn ei gael gan y cyhoedd a gwleidyddion yn rhywbeth i’w groesawu – gan fod newid hinsawdd yn fygythiad mawr i bobl a byd natur.

“Ond y gwir yw mai un agwedd yn unig yw ein hinsawdd o’n ecosystem fyw a rhyng-gysylltiedig. Rhaid mynd i’r afael â’r ddau argyfwng – newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth – ar y cyd.”