Mae cynghorydd tref Aberystwyth ar Gyngor Sir Ceredigion yn dweud wrth golwg360 bod y driniaeth o stondinwraig ym marchnad Aberystwyth sy’n hanu o Taiwan yn “warthus”.

Roedd Su Chu Lu, sy’n 54 oed, newydd ddychwelyd o’i mamwlad ac yn gweithio yn y farchnad pan ddaeth pobol ati a dweud ei bod hi’n rhoi pobol mewn perygl o gael eu heintio â coronavirus.

Ond yn Tsieina, ac nid yn Taiwan, mae’r firws ar hyn o bryd.

Mae hi’n cyhuddo stondinwyr o gynnal cyfarfod gyda’r bwriad o’i hatal rhag dychwelyd at ei stondin, ond mae stondinwyr eraill yn ei chefnogi ac wedi gosod posteri yn y farchnad yn dweud hynny.

Ymateb

Ar dudalen Facebook y farchnad, mae nifer o bobol wedi bod yn datgan eu cefnogaeth i Su Chu Lu gan ddweud bod y driniaeth ohoni’n “anwybodus a gwarthus”.

“Gobeithio fod gennych chi gywilydd,” meddai’r sylw wedyn.

Yn ôl cynghorydd yn Aberystwyth, mae’r driniaeth ohoni’n annheg.

“Yn amlwg, dw i’n meddwl ei fod e’n warthus beth sydd wedi digwydd,” meddai Ceredig Davies, dyn busnes yn y dref sy’n cynrychioli’r dref ar y Cyngor Sir, wrth golwg360.

“Does gan bobol ddim syniad sut mae pethau fel hyn yn effeithio pobol yn unigol.”