Mae oedi i deithwyr yng Nghymru yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Bryste fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 4).

Fe wnaeth lori daro bariau ynghanol yr M4 rhwng cyffordd 20 a chyffordd 21, gan achosi tagfeydd sylweddol sy’n 14 milltir o hyd erbyn hyn.

Roedd pont hafren yr M48 ynghau am gyfnod i’r dwyrain ond mae bellach ar agor ers rhai oriau.

Mae un lôn ynghau i’r ddau gyfeiriad o hyd, ac mae rhybudd i deithwyr gadw draw am y tro.

Chafodd gyrrwr y lori mo’i anafu.