Mae dyn 75 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdraiwad yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener, Ionawr 17.

Roedd car Victor Moore wedi gwrthdaro gyda cherbyd oedd wedi parcio a thŷ ar Stryd Blanche, yn ardal Waunadda, Caerdydd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, lle bu farw o’i anafiadau heddiw (dydd Llun, Chwefror 3).

Mae’n gadael ei bartner Cherry Hyde a’u meibion, Jay Moore a Max Moore.

Roedd Victor Moore a Cherry Hyde wedi symud i Gymru o Swydd Derby yn 2016, wedi i’w meibion fynd i’r brifysgol.

Dywed ei deulu bod Victor Moore wedi byw bywyd i’r eithaf a bod colled fawr ar ei ol.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu  ffilm dash-cam i gysylltu â nhw.