Mae dyn 52 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn o Nantgaredig sydd wedi bod ar goll ers wythnos.

Mae Andrew Jones, o Bronwydd, Caerfyrddin wedi’i gyhuddo o lofruddio Michael O’Leary sydd heb gael ei weld ers Dydd Llun, Ionawr 27.

Mae’r chwilio am Michael O’Leary yn parhau mewn nifer o leoliadau yn ardal Caerfyrddin ac mae ei deulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Fe fydd Andrew Jones yn mynd gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Mawrth, Chwefror 4.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai fod wedi gweld Michael O’Leary ar Ionawr 27 neu ei gar Nissan Navara lliw arian, yn teithio rhwng Cwmffrwd a Chapel Dewi rhwng 8pm a 10pm yer un noson.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.