Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn ystod oriau mân fore dydd Sul (Chwefror 2) rhwng Llithfaen a Phentreuchaf ym Mhen Llyn, Gwynedd.

Roedd Gryffudd Rhun Jones yn 27 oed ac yn dod o ardal Brynaerau, Rhosfawr.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn “fab, gŵr, tad a brawd tu hwnt o gariadus ac mi fydd yn golled enfawr i bawb.”

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd toc cyn 1:50 fore dydd Sul, Chwefror 2. Roedd Gryffudd Rhun Jones yn gyrru car Skoda Octavia lliw du.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ond bu farw yn y fan a’r lle.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion yr Uned Plismona Ffyrdd ar 101.