Mae’r heddlu wedi cael gwarant i gadw dyn o ardal Caerfyrddin am ragor o amser yn y ddalfa i’w holi ymhellach ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Roedd y dyn 52 oed wedi cael ei arestio ddydd Iau fel rhan o ymchwiliadau’r heddlu i ddiflaniad Michael O’Leary o Nantgaredig.
Parhau mae’r chwilio am y dyn 55 oed sydd wedi bod ar goll ers dydd Llun diwethaf, ac mae’r heddlu â thimau ar waith mewn amryw o leoliadau o gwmpas Caerfyrddin.
“Mae ymchwiliad trylwyr a chyflym yn cael ei wneud i ddarganfod amgylchiadau diflaniad Mr O’Leary,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones.
“Rydym yn ystyried yr holl ffeithiau a’r dystiolaeth o’n blaenau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys holi dyn a allai fod â gwybodaeth hanfodol a allai ein helpu.”
Gan apelio am i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar frys, ychwanegodd Paul Jones.
“Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn clywed gan unrhyw un sydd wedi gweld cerbyd Michael O’Leary, sef Nissan Navara o liw arian, rhwng Cwmffrwd a Capel Dewi rhwng 8pm a 10pm nos Lun, neu unrhyw un â gwybodaeth a oedd yn yr ardal yr adeg hon.
“Gwyddom y gallai’r datblygiad diweddaraf achosi pryder yn y gymuned, ond hoffem sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth a allwn i gael atebion i deulu Mr O’Leary.”