Ar ôl i Boris Johnson a’i giwed gael eu dymuniad i dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd, apelio ar i bobl “ddod at ei gilydd” roedd y Prif Weinidog neithiwr.

Mewn geiriau eraill, anghofiwch yr holl gelwyddau rydan ni wedi eu taflu atoch dros y blynyddoedd diwethaf a gadewch inni gydlawenhau a maddau.

Da felly oedd gweld mai “does arnom ni ddim eisiau eich Brexit chi” oedd y neges glir iddo mewn rali y tu allan i senedd yr Alban neithiwr. Roedd hyn, wrth gwrs yn adlewyrchu’r ffaith hysbys fod mwyafrif clir o bobl yr Alban wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ffaith sy’n llai hysbys, ac sydd heb gael hanner digon o sylw, ydi bod yna garfan glir ohonom ninnau hefyd yng Nghymru nad oedd yn dymuno unrhyw fath o Brexit. Mae ymchwil manwl gan arbenigwyr gwleidyddol yn dangos mai ni, siaradwyr Cymraeg rhugl, oedd y grŵp diwylliannol mwyaf gwrthwynebus i Brexit drwy’r holl Deyrnas Unedig. Roedd y mwyafrif mawr yng Ngwynedd, sir Gymreiciaf Cymru, dros aros hefyd yn cadarnhau hyn.

Wrth gwrs, rydan ni’n lleiafrif llawer rhy fach i fod wedi gallu rhwystro Brexit rhag digwydd. Yn ormod o leiafrif yng Nghymru, heb sôn am weddill Prydain. Ar y llaw arall, efallai ein bod ni wedi bod yn rhy barod i dderbyn yn ddi-gwestiwn y sylw arwynebol bod “pobl Cymru” wedi dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd. A bod angen inni yn fwy eofn a pharod i atgoffa pobl ein bod ni fel y gymdeithas Gymraeg ei hiaith wedi cael ein llusgo allan yn erbyn ein hewyllys.

Braidd yn ddiystyr ydi agwedd llawer gormod o’n gwleidyddion ar y funud ydi bod angen “symud ymlaen”. Dydi’r ffaith ddiymwâd ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ddim yn golygu o gwbl y dylem roi’r gorau i’n gwrthwynebiad i hynny. Fwy nag ydi’r ffaith fod Cymru’n rhan o’r Deyrnas Unedig yn golygu y dylen ni fod yn Eingl-Brydeinwyr ufudd a theyrngar i’r wladwriaeth honno.

Gwerthoedd

I lawer ohonom mae’r syniad o ddinasyddiaeth Ewropeaidd yn fater o ddiwylliant, hunaniaeth a gwerthoedd o leiaf yn gymaint ag unrhyw ystyriaethau economaidd. Rhaid sicrhau bod yr ymwybyddiaeth a’r teimlad hwn o berthyn yn parhau.

Mae’r meddylfryd a’r cymhellion cenedlaetholgar Seisnig sy’n gyfrifol am Brexit yn fygythiad amlwg i’n hunaniaeth. Does ond raid edrych ar y ffyliaid rheini a oedd yn lapio’u hunain mewn iwnion jacs a bloeddio canu caneuon imperialaidd yn Llundain neithiwr i weld y math o wrthdaro diwylliannol rydan ni’n ei wynebu.

Yn yr un modd, mae atgasedd llwyr llawer o arweinwyr Brexit at gydweithio rhyngwladol, ac at unrhyw gysyniad o ddinasyddiaeth fyd-eang, yn gwbl droedig a gwrthun i’r gwerthoedd sydd wedi cael eu dysgu i ni.

Os ydi pobl fel Boris Johnson yn meddwl ein bod ni’n mynd i gyfaddawdu ar y gwerthoedd rheini er mwyn undod ei wladwriaeth, yr ateb ydi BYTH.

Mae’n ddigon dealladwy y bydd llawer ohonom yn teimlo tristwch am yr hyn sydd wedi digwydd. Gobeithio y bydd mwy ohonom yn teimlo dicter a dirmyg llwyr tuag at y rheini sy’n gyfrifol am y llanast. Ac yn bwysicach na dim, yn dal i gredu, ac yn fwy penderfynol nag erioed i ymwrthod â’r gau newyddion sydd wrth wraidd y cyfan.

Nid amser i ildio nac i alaru ydi hi, ond amser i ymstyfnigo ac ymfalchïo ac ymhyfrydu o’r newydd yn ein diwylliant, ein cymdeithas, ein hunaniaeth a’n gwerthoedd.

Mi allwn ddal ein pennau’n uchel yn y sicrwydd y bydd hanes yn profi ein bod ni ar yr ochr iawn yn y rhyfel diwylliannol hwn sy’n sicr o barhau.

Huw Prys Jones