Mae postmon o Ben Llŷn wedi dweud ei fod yn ei chael yn anodd credu ei fod wedi sgorio 147 mewn gêm gynghrair o snwcer.

Dyma’r sgôr uchaf posib ar un ymweliad gyda’r bwrdd, a rhaid potio pob pêl er mwyn ei gyrraedd, sy’n golygu potio’r ddu ar ôl pob pêl goch cyn troi at botio’r lliwiau i gyd.

Mae Elfed Evans o Bwllheli yn hynod o hapus gyda’i gamp.

Mi sgoriodd yr 147 ar nos Fercher mewn gêm gynghrair yn Aberdaron, ac roedd yn cynrychioli’r Pwllheli Blues ar y pryd.

Dyw’r gŵr 50 oed erioed wedi gwireddu’r gamp o’r blaen, ac mae’n esbonio bod y fath sgôr yn hynod brin – yn enwedig mewn gêm gynghrair amaturaidd.

“Dw i ddim yn gwybod os oes llawer wedi gallu ei wneud yn amatur yng Nghymru,” meddai wrth golwg360. “Dw i wedi clywed am un hogyn o Gasnewydd yn gwneud un flynyddoedd yn ôl.

“Mae tipyn wedi ei wneud o mewn practice. Ond mewn match go-iawn… dim dw i ddim yn credu bod llawer wedi cael ei wneud o. Alla’ i ddim coelio’r peth o hyd!”

Cynrychioli Cymru

Dechreuodd Elfed Evans chwarae snwcer yn 14 oed ac er nad yw erioed wedi chwarae’n broffesiynol, mae wedi cynrychioli Cymru mewn gemau amatur.

Mi gynrychiolodd Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol yn Ne Affrica yn 1994.