Fydd neb yn codi ofn ar Gymru yn y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig “frwydr o’u blaenau” os bydden nhw’n ceisio cipio pwerau datganoledig sy’n dychwelyd o Frwsel.

Roedd Mark Drakefrod yn siarad yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd y bore yma, lle dywedodd y byddai Cymru’n “parhau i fod yn wlad Ewropeaidd falch”.

Ond rhybuddiodd y bydd Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn profi “straen ac anawsterau” yn y blynyddoedd nesaf.

“Efallai bod Brexit wedi digwydd, ond nid ydym wedi camu allan i’r byd newydd yna eto,” meddai Mark Drakeford.

“Yma yng Nghymru ac yn Llywodraeth Cymru, chawn ni mo’n twyllo gan honiadau bod Brexit wedi gorffen.”

Yn ystod sesiwn cwestiynau ac ateb, dywedodd Mark Drakeford y dylai Cymru a’r gwledydd datganoledig eraill “gael lle pendant” wrth ffurfio tîm negodi’r Deyrnas Unedig, a chael bod yn rhan o’r trafodaethau ar faterion datganoledig.