Mae Miss Universe Prydain wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod mynd dramor i gysuro merched sydd wedi eu creithio yn arw gan asid, wedi newid ei bywyd.

Aeth Emma Jenkins o Lanelli i India i gefnogi ymgyrch ‘Stop Acid Attacks’, ar ôl iddi godi dros £2,500 i’r elusen.

Bydd modd dilyn ei stori ar raglen DRYCH: Miss Universe ar S4C nos Sul am naw.

Fe gafodd y ferch o Lanelli ei dewis yn Miss Cymru yn 2015, a’r llynedd daeth i’r brig drwy Brydain a chael cystadlu yn Miss Universe draw yn America.

“Fel rhan o’r wobr Miss Universe dydych chi ddim yn cael gwobr ariannol,” eglura Emma Jenkins.

“Ond rydych chi’n cael mynd i India am wythnos ac ymweld ag elusennau yr ydym ni wedi codi arian i’w cefnogi.

“Es i India ym mis Tachwedd i gwrdd â’r merched wnaeth oroesi’r ymosodiadau horrendous yma.

“Ac mae yn rhaid i mi gyfaddef, wnaeth e’ newid fy myd i…

“Maen nhw yn mynd mas i gymunedau, a ffeindio’r merched yma… fel arfer, ar ôl yr ymosodiadau, maen nhw fel arfer yn ddall, weithiau yn fyddar. Yn outcasts yn eu cymunedau nhw…

“Mae’r [elusen] yn mynd mas i ffeindio nhw, yn talu am feddyginiaeth a’r llawdriniaethau sydd eisiau er mwyn iddyn nhw allu byw bywyd ychydig bach mwy cyffredin.

“Rhoi teulu newydd iddyn nhw o ferched sydd wedi bod trwy’r un peth. Maen nhw yn cael eu cwnsela, a dysgu sgiliau newydd.

“Ac mae lot ohonyn nhw nawr yn gallu siarad Saesneg yn rhugl. Merched o bentrefi bach iawn yn rhywle fel India, nawr gyda gwaith ac yn ennill arian.

“Mae e’ jesd yn anhygoel, yr hyn maen nhw yn ei wneud i’r merched yma.”

Mwy gan Emma Jenkins yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg