Mae S4C am ddechrau dangos y rhaglen gylchgrawn Heno ar nosweithiau Sadwrn am y tro cyntaf erioed.

Hyd yma, dim ond yn ystod yr wythnos y bu modd mwynhau’r arlwy.

Ond fe fydd Heno ymlaen ar S4C am 7.30 ar nos Sadwrn o hyn allan, gan gychwyn wythnos i yfory ar Chwefror 8.

Yn ôl un o hoelion wyth y rhaglen  “bydd darlledu ar nos Sadwrn yn gyfle gwych i fod yn rhan o ddigwyddiadau hollol wahanol i’r arfer”.

Ychwanegodd y gyflwynwraig Elin Fflur: “Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael ymuno hefo’r hwyl ar hyd a lled y wlad a gweld sut mae pobl yn mynd ati i ymlacio a mwynhau eu hunain. Mi wneith hi sioe anhygoel.”

Bydd S4C yn lansio amserlen newydd ar Chwefror 24.