Mae cyngor yn y gogledd wedi derbyn £30,000 er mwyn cyflwyno gorsafoedd ail-lenwi poteli dŵr ar hyd arfordir yr Ynys.

Fe gafodd Gyngor Môn yr arian gan Lywodraeth Cymru i osod gorsafoedd ail-lenwi poteli dŵr mewn cymunedau sydd ger y Llwybr Arfordirol.

Y gobaith yw galluogi cerddwyr i gael mynediad at ddŵr, arbed arian ac atal llygredd plastig.

“Rydym yn angerddol iawn am ein hynys brydferth ac mae’r ymgyrch yma’n newyddion da i ni gyd,” meddai’r Cynghorydd Carwyn Jones.

“Nid yn unig mae yn darparu ffynhonnell ddŵr am ddim er mwyn ein cadw’n hydradol tra ein bod allan yn mwynhau’r cefn gwlad a’r arfordir, mae hefyd yn gam positif yn ein hymgyrch i leihau’r defnydd o blastig untro.”

Y bwriad yw gosod gorsafoedd dŵr mewn mannau strategol, ynghyd â byrddau gwybodaeth er mwyn tynnu sylw at y manteision o yfed dŵr tap yn lleol ac annog y defnydd o ddefnyddio poteli dŵr y gellir eu hail-lenwi drwy gydol 2020.