Bydd dwy o ganghennau Grŵp Bancio Lloyds yng Nghymru’n cael eu cau fel rhan o gynlluniau i gau 56 o ganghennau’r cwmni drwy wledydd Prydain.

Canghennau Lloyds yn y Mwmbwls a Bae Colwyn yw’r ddwy fydd yn cau yng Nghymru, wrth i 31 o ganghennau Banc Lloyds, deg o ganghennau Halifax a 15 o ganghennau’r Bank of Scotland gau eu drysau.

Fe ddaw wrth i lai o bobol ddefnyddio’u banciau lleol.

Bydd y canghennau’n cau rhwng mis Ebrill a Hydref eleni, gyda llai nag 80 o bobol yn colli eu swyddi wrth iddyn nhw gael eu symud i lefydd eraill.

Yn ôl llefarydd ar ran y grŵp, mae modd i gwsmeriaid ddefnyddio’u swyddfa post leol i wneud yr hyn y bydden nhw fel arfer yn ei wneud yn eu banc lleol, yn ogystal â banciau teithiol.

“Mae hyn yn ymateb i ymddygiad cwsmeriaid yn newid a llai o drafodion yn cael eu gwneud mewn canghennau,” meddai’r llefarydd.