Does neb wedi gweld y dyn 55 oed ers nos Lun (Ionawr 27

 

Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn 55 oed sydd ar goll o ardal Nantgaredig.

 

Does neb wedi gweld Michael O’Leary ers nos Lun (Ionawr 27).

 

Mae timau achub mynydd, cŵn yr heddlu a’r gwasanaeth tân ynghlwm wrth y chwilio.

 

Maen nhw hefyd yn chwilio yn ardal Capel Dewi, lle daethpwyd o hyd i’w gerbyd, yn ogystal ag afon Tywi o Gapel Dewi i Gaerfyrddin. 

 

Mae timau achub yn goruchwylio ei deulu a’i ffrindiau sy’n chwilio amdano.

 

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.