Mae llys yn ystyried penderfyniad i beidio ag erlyn dyn oedd wedi ffilmio dynes yn cysgu’n noethlymun yn 2015 – ar ôl rhoi sylw i ddyfarniad yn erbyn dyn o Gaerdydd mewn achos arall.

Mae barnwyr wedi egluro’r gyfraith, a allai arwain at adolygu penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron y llynedd. 

Cafodd Emily Hunt ei ffilmio’n cysgu’n noeth bum mlynedd yn ôl, a heriodd hi benderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dwyn achos yn erbyn y troseddwr honedig.

Daw’r penderfyniad i ystyried adolygu’r achos yn dilyn achos arall ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 28), ac mae Emily Hunt yn dweud bod hi’n gobeithio y bydd y dyn “yn gweld cyfiawnder a chanlyniadau ei weithredoedd”.

Cyfiawnder

“Fe gymerodd bum mlynedd i frwydro i gyrraedd y pwynt yma,” meddai Emily Hunt.

“Ddylai e ddim cymryd cysylltiadau, addysg na chyfoeth i gael cyfiawnder.

“Y penderfyniad hwn oedd yr ateb clir, amlwg a synhwyrol i gwestiwn nad oedd neb arall yn ei ofyn: a yw’n anghyfreithlon ffilmio rhywun yn noeth heb eu caniatâd?

“Oherwydd mae’r ateb yn amlwg: ydy, ydy mae e. A heddiw, fe gytunodd y llys.”

Yr achos arall

Cafodd y gyfraith ei hegluro yn ystod gwrandawiad apêl Tony Richards, dyn 40 oed o Gaerdydd.

Cafodd ei garcharu am 15 mis am ffilmio’i hun yn cael rhyw â gweithwyr rhyw, ac am fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.

Roedd ei gyfreithwyr yn dadlau nad oedd e’n euog o unrhyw drosedd gan fod y ffilmio wedi digwydd mewn lleoliad preifat.

Ond cafodd yr apêl ei gwrthod wrth i’r barnwr ddweud bod modd disgwyl preifatrwydd beth bynnag, ac fe gafodd Emily Hunt ganiatâd i gael ei chynnwys yn y dyfarniad yn sgil hynny.

Mae ymgyrchwyr yn galw am eglurhad gan Wasanaeth Erlyn y Goron am ddau ddyfarniad cwbl wahanol mewn dau achos gwahanol.

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd y gyfraith yn eglur cyn hyn, ac y byddan nhw’n adolygu achos Emily Hunt yn sgil yr eglurhad.