Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 73 oed y cafwyd hyd i’w gorff ger traphont yn ardal Glyn-nedd.

Roedd David Williams yn adnabyddus mewn cylchoedd sioeau cŵn.

Cafwyd hyd i’w gorff ddydd Llun (Ionawr 27), ac mae dyn lleol 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio.

“Roedd David yn berson cariadus a hael dros ben a fyddai’n mynd allan o’i ffordd i helpu unrhyw allai e,” meddai ei deulu mewn teyrnged.

“Roedd e’n adnabyddus iawn yn y gymuned sioeau cŵn ac fe fydd colled fawr ar ei ôl e.

“Fel teulu, rydym yn gofyn am breifatrwydd ar hyn o bryd i alaru ar ei ôl e.”

Apêl

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal y draphont rhwng 2yp ac 8yh ddydd Llun, ac a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cefnogi’r teulu.