Bydd trefi yng Nghymru yn cael gwerth £90m o fuddsoddiad ychwanegol fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid canol trefi ledled y wlad.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, bod y “sector manwerthu wedi crebachu’n ddramatig, ac mae’n edrych yn debygol y bydd y duedd hon yn parhau.”

“Bydd y pecyn Trawsnewid Trefi yn helpu trefi i drawsnewid yn lleoedd sy’n addas i’r 21ain ganrif ac yn dangos bod y Llywodraeth o ddifrif ynghylch trawsnewid trefi o Fôn i Fynwy.”

Mae’r pecyn Trawsnewid Trefi yn ategu buddsoddiadau gwerth £800m  mewn trefi yn dilyn buddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru ers 2014.

Mae’r buddsoddiadau’n cynnwys:

  • £36m i brosiectau ar gyfer adfywio canol trefi.
  • £13.6m i fynd i’r afael ag adeiladau gwag a thir diffaith.
  • £2m i drefi’r arfordir.
  • £10m o gyllid ychwanegol i’r cynllun benthyciadau canol trefi – cynllun sy’n helpu i wneud defnydd newydd o adeiladau gwag.
  • £5m o gyllid ar gyfer Seilwaith Gwyrdd a bioamrywiaeth yng nghanol trefi.

Canol Trefi’n Gyntaf

Hefyd er mwyn adfywio canol trefi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘Canol Trefi’n Gyntaf’ – dull newydd o weithredu sy’n golygu lleoli gwasanaethau ac adeiladau yng nghanol trefi ble y gellir gwneud hynny.

Mae’r Cynghorydd Rob Stewart a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Adfywio wedi croesawu hyn gan ddweud: “Bydd yn sicrhau bod pwysigrwydd strategol trefi yn cael ei ystyried mewn unrhyw benderfyniadau newydd ynghylch buddsoddi neu gynllunio.

“Er na fydd lleoliad yng nghanol tref yn addas ar gyfer pob gwasanaeth neu gyfleuster, bydd y dull hwn o weithredu yn sicrhau bod y lleoliadau hyn yn cael eu hystyried yn gyntaf, a bod rhaid dangos tystiolaeth ar gyfer unrhyw benderfyniad i ddefnyddio lleoliad arall.”