Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dweud ei bod hi’n bryd i Gymru ganolbwyntio ar “gyfleoedd newydd” mewn “tirwedd newydd” ar drothwy gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn cynnal araith ar ddyfodol Cymru wedi Brexit yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Llun, Ionawr 27).
Wrth siarad cyn yr araith, dywedodd Adam Price: “Doedden ni ddim i gyd eisiau gadael ond rydyn ni i gyd yn gadael nawr a does fawr o bwrpas parhau i ymarfer y dadleuon hyn nac ymladd brwydrau ddoe.”
Ychwanegodd: “Nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael y gobaith hynny o Gymru newydd ar ôl, gallwn droi’r pymtheng mis nesaf yn gyfle i drawsnewid Cymru.”
“Cynllun ôl-Brexit cadarnhaol”
Gan ychwanegu ei bod yn “amser canolbwyntio ar y cyfleoedd newydd yn y dirwedd newydd” a bod angen “cynllun ôl-Brexit cadarnhaol i Gymru” gyda mwy o rymoedd i’r Senedd er mwyn “mynd i’r afael a datrys problemau economaidd Cymru”.
Addawodd Arweinydd Plaid Cymru fod cynnig ei blaid ar iechyd, addysg a’r economi “yr un peth” i’r rhai a bleidleisiodd i adael neu i aros, “ble bynnag yng Nghymru” roeddent yn byw gan ychwanegu na fyddai gadael yr UE yn golygu “gadael gobaith y Gymru newydd y tu ôl ”.
Dywedodd Adam Price bod modd i Gymru fanteisio ar yr hyblygrwydd a roddir i Gymru y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd gan gynnwys:
- Banc Datblygu Cymru i fenthyca heb gyfyngiadau rheolau cymorth gwladwriaethol
- Datganoli pŵer dros dreth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf ar eiddo, ardoll brentisiaeth a’r ddyletswydd teithwyr awyr.
- Datblygu rheolau caffael newydd i gefnogi ein heconomi sylfaenol.
- Creu “freeports” Cymreig mewn porthladdoedd a meysydd awyr allweddol.
- Trwyddedau gwaith Cymreig fel rhan o system fudo Cymru.