Mae Clwb Pêl-droed Reading yn cynnal ymchwiliad i achosion o “wahaniaethu” yn dilyn y gêm gwpan yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Madejski ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 25).

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yn union yw’r honiadau, ond mae dyfalu eu bod yn ymwneud â chaneuon gwrth-Seisnig oedd yn cael eu hanelu at gefnogwyr Reading, tra bod eraill yn gwneud honiadau mwy difrifol am homoffobia.

Yn ôl gwefan y clwb, roedd “dau ddigwyddiad ynysig ond cwbl annerbyniol” o’r hyn maen nhw’n ei alw’n “ymddygiad o wahaniaethu” yn Eisteddle’r De, sef yr eisteddle ar gyfer cefnogwyr oddi cartref.

Maen nhw’n dweud y bydd “ymchwiliad llawn” yn cael ei gynnal, a’u bod nhw “wedi ymrwymo i awyrgylch diwrnod gêm sy’n brofiad positif i bawb”.

“Dydy gwahaniaethu o unrhyw fath ddim yn iawn, ac mae’r holl gefnogwyr sy’n ymweld â Stadiwm Madejski yn cael eu hatgoffa na fyddwn yn goddef achosion o ymddygiad o wahaniaethu”.

Ymateb Caerdydd

Mewn datganiad ar wefan yr Adar Gleision, dywed y clwb eu bod nhw’n “ymwybodol o’r honiadau”.

“Byddwn yn siarad â Chlwb Pêl-droed Reading, Heddlu Thames Valley a Heddlu’r De (oedd yn bresennol â’r cefnogwyr oddi cartref) i geisio manylion am y mater,” meddai’r datganiad.

“Byddwn yn cynnal y sgyrsiau hyn gyda’r awdurdodau perthnasol cyn gwneud sylw pellach.”