Fe fydd y Ffermwyr Ifanc yn cynnal digwyddiad arbennig nos Wener (Ionawr 31) i dynnu sylw at stigma iechyd meddwl yn y byd amaeth.

Mae’r digwyddiad yng ngwesty’r Emlyn yng Nghastell-newydd Emlyn yn dod â changhennau siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro ynghyd am noson o adloniant rhad ac am ddim.

Dyma’r tro cyntaf i ganghennau’r tair sir gydweithio ar ddigwyddiad o’r fath.

Digwyddiad dwyieithog fydd hwn, a’r panel yn cynnwys y cyflwynydd teledu, actor a ffermwr Alun Elidyr, Emma Picton-Jones o Sefydliad DPJ a’r Parchedig Ganon Eileen Davies o ardal Tir Dewi. Bydd yn cael ei gadeirio gan y gyflwynwraig a ffermwraig Meinir Howells.

‘Bywyd anodd ac unig’

“Mae bywyd yng nghefn gwlad yn gallu bod yn anodd ac yn unig iawn weithiau, a hawdd yw meddwl nad oes neb ar gael i wrando. Ond mae help i’w gael,” meddai Endaf Griffiths, un o drefnwyr y digwyddiad.

“Bydd y noson hon yn gyfle i wneud gwahaniaeth wrth i Ffermwyr Ifanc y tair sir ddod ynghyd i geisio chwalu’r stigma o amgylch iechyd meddwl.

“Dyma bwnc sy’n berthnasol i bawb, o bob oed, ac mae’n bwysig bod y rhai sy’n dioddef yn gwybod ei bod yn iawn i siarad.”