Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Treberfedd a’r Trallwng neithiwr (nos Wener, Ionawr 24).

Fe ddigwyddodd ar ffordd A458 am oddeutu 11.20 pan darodd Citroën Saxo glas a Fiat 500 coch.

Fe wnaeth y Fiat 500 daro polyn gan achosi i drigolion yr ardal golli eu cyflenwadau trydan.

Yn fuan wedyn, fe wnaeth Renault Clio lliw arian daro’r Citroën Saxo.

Cafodd gyrrwr y Saxo anafiadau difrifol, a chafodd gyrrwr a theithwyr y Fiat eu cludo i’r ysbyty am driniaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth a/neu ddeunydd dashcam gysylltu â’r heddlu.