Wrth iddi barhau â’i hymdrech i ddysgu’r heniaith, bydd Carol Vorderman yn cyflwyno’r tywydd yn Gymraeg dros y penwythnos.

Mae cyn-gyflwynydd rhaglen Countdown bellach ynghlwm â rhaglen newydd Iaith ar Daith, ac yn ystod y ffilmio mi fydd yn wynebu cyfres o heriau.

Ddydd Sul (Ionawr 26) mi fydd hi’n wynebu ei her fwyaf hyd yma, ac yn gorfod cyflwyno’r bwletin rhagolygon tywydd am 12.28 y prynhawn ar S4C.

“Siŵr o fod bydda i’n dweud bod haul tanbaid ar Ynys Môn a theiffŵn yn Llanelli, felly peidiwch â newid eich cynlluniau ar sail beth y’ch chi’n clywed gennyf fi!” meddai Carol Vorderman.

“Bydda i’n cael cymaint yn anghywir, ond does dim ofn gen i wneud camgymeriadau. Rydw i wedi colli’r ofn o edrych yn dwp!”

Iaith ar daith

Mae Carol Vorderman yn un o bump seleb a fydd yn mynd ar daith i rannau gwahanol o Gymru gyda mentor adnabyddus sy’n gallu siarad Cymraeg gyda’r nod o ddysgu’r iaith.

Mae Iaith ar Daith yn gynhyrchiad Boom Cymru a bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu ar S4C yng ngwanwyn 2020.

Cymraes yw mam Carol Vorderman a chafodd y cyflwynydd ei magu yng ngogledd Cymru. Y cyflwynydd bwletinau tywydd, Owain Wyn Evans, yw ei mentor ar y rhaglen.