Mae math prin o rheino wedi cael ei eni yn yng Nghymru am y tro cyntaf.

Cafodd y rheino du dwyreiniol ei eni yn sŵ Folly Farm, yn Sir Benfro, yn dilyn cyfnod beichiogrwydd 15 mis o hyd.

Dim ond 650 o’r creaduriaid yma sy’n dal i fyw yn y gwyllt, ac mae tua 87 ohonyn nhw’n byw mewn sws ledled Ewrop.

Cafodd y rheino ei eni ar Ionawr 16 ac o fewn rhai oriau wedi’r enedigaeth roedd yn medru dilyn ei fam, Dakima, ar droed.

Y gred yw bod y llo yn pwyso rhwng 30 a 45kg, ac mi fydd gweithwyr y sw yn cadw llygad craff arno dros yr wythnosau nesaf.