Mae stryd fawr Treorci yn y Rhondda wedi cael ei henwi’r orau ym Mhrydain yn noson wobrwyo’r ‘Great British High Street Awards’.

Cafodd tref Treorci glod hefyd am ei chymuned ffyniannus.

“Mae’r bobol leol wedi bod yn benderfynol o gefnogi eu cymunedau,” Jake Berry, Gweinidog Strydoedd Mawr Llywodraeth Prydain.

Daeth Treorci i’r brig ar ôl cael ei enwebu gan landlord tafarn leol, Adrian Emmett.

“Rydym wedi rhoi gwaed, chwys a gwaith caled i wireddu hyn,” meddai pan gyrhaeddodd y dref y rhestr fer ar gyfer y wobr.

Mae gan Stryd Fawr Treorci oddeutu 100 o siopau gyda nifer helaeth ohonyn nhw yn siopau annibynnol.

Mae 20 o fusnesau newydd wedi agor yno yn y tair blynedd ddiwethaf.

Stryd sydd ar i fyny”

Cafodd Caernarfon yng Ngwynedd ei anrhydeddu yn y gwobrau hefyd, pan gafodd Stryd y Plas ei enwi fel y ‘Stryd sydd ar i fyny’ orau yng Nghymru.

Mae wedi bod yn gwpl o flynyddoedd llwyddiannus i Gymru yn y gwobrau, wedi i Grughywel ym Mhowys gael ei enwi yn Stryd Fawr Orau Prydain yn 2018.