Roedd Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi derbyn cwyn am un o ymgeiswyr y blaid fisoedd cyn i wybodaeth ddamniol ddod i’r fei.
Dyna mae e-bost sydd wedi ei ryddhau i’r Wasg, ac sydd wedi ei weld gan golwg360, yn ei ddatgelu.
Roedd Ross England wedi gobeithio cystadlu am sedd Bro Morgannwg ar ran y Torïaid yn yr etholiad Cynulliad nesaf, ond ddoe cafodd ei dynnu oddi ar restr ymgeiswyr y blaid.
Ym mis Ebrill 2018 bu’n gyfrifol am danseilio achos llys yn ymwneud â threisio honedig, a daeth gwybodaeth am hyn i’r fei ym mis Hydref y llynedd.
Bellach mae wedi dod i’r amlwg bod y Cadeirydd, Byron Davies, wedi derbyn cwyn am Ross England ym mis Mehefin 2019 – misoedd cyn i fanylion yr achos llys ddod i’r amlwg.
E-bost Darren Millar
Yn yr e-bost a gafodd ei anfon at Byron Davies ar Fehefin 14, 2019, mae Darren Millar, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, yn sôn am ei “bryderon difrifol” ynghylch sylwadau y gwnaeth Ross England ar y We.
Ac mae’n gofyn bod “statws Ross fel ymgeisydd Cynulliad sydd wedi’i gymeradwyo yn cael ei adolygu cyn gynted ag sy’n bosib”.
Yn benodol mae Darren Millar yn pryderu bod sylwadau ar-lein y cyn-ymgeisydd yn dangos nad yw ei ddaliadau yn cyd-fynd â gwerthoedd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.
Pryderon yr Aelod Cynulliad
Yn benodol mae Darren Miller yn pryderu am:
- Gefnogaeth Ross England tuag at ddiddymu’r Cynulliad Cenedlaethol a swyddogaethau Aelodau Cynulliad;
- Gwrthwynebiad y cyn-ymgeisydd at enw dwyieithog i’r Cynulliad, a’i gefnogaeth i enw uniaith;
- Ei safiad ar Doll Teithwyr Awyr – mae grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am i’r doll gael ei datganoli.
Mae golwg360 wedi gofyn i Darren Millar, Byron Davies a’r Ceidwadwyr Cymreig am ymateb.